Слике страница
PDF
ePub

Y DRYSORFA:

Cylchgrawn Misol

Y METHODISTIAID CALFINAIDD.

1858.

Llyfr XII. o'r Gyfres Newydd, a Llyfr XXVIII. o'r Hen Gyfres.

TREFFYNNON:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN P. M. EVANS.

BODLEIAY

1 8 NOV 1966

LIBRARY

RHAGYMADRODD.

AR derfyniad cyflyfr eto o'r DRYSORFA, y mae defod ac arfer, yn gystal â rheolau moesau da, yn ein galw i gyfarch ein darllenyddion llïosog. Yr oedd yn hyfryd genym eu gwasanaethu yn mharatöad ein cylchgyhoeddiad o fis i fis, ac yr ydym yn hyderu mai nid anhyfryd ganddynt hwythau oedd derbyn ei ymweliadau, gan ei fod yn cyflwyno yn gyson iddynt amledd ac amrywiaeth o ddefnyddiau myfyrdod, testynau ymddyddan, a chyfarwyddiadau, annogaethau, ac esiamplau i weithredoedd da. Fe welir fod rhai nodweddau newyddion yn perthyn i DRYSORFA y flwyddyn hon, heblaw ei chynnwysiad arferol, ag sydd yn ychwanegu ei dyddordeb a'i chymeradwyaeth. Mae yr erthygl arweiniol, neu y traethawd cyntaf ymhob rhifyn, yn ddarparedig gan weinidog penodol, yn welliant mawr ar ein cyhoeddiad, ac yn derbyn canmoliaeth cyffredinol. Mae y cynllun hwn yn effeithio i ddwyn allan frodyr galluog i addysgu ac i ysgrifenu ar nad oeddent ond anfynych os erioed yn anerch ein darllenwyr o'r blaen, tra y mae yn foddion i alw sylw arbenig at yr hyn a ysgrifenir. Anrhegwyd ein holl dderbynwyr hefyd â darlun hardd o'r diweddar enwog Barch. JOHN JONES, Talysarn; a gofelir am roddi portreiad teilwng eto cyn diwedd y flwyddyn ddyfodol. Cawsom sicrhâd fod "Bwrdd y Golygydd," yr hwn a osodwyd i fyny eleni, yn debyg o ateb dybenion daionus mewn cysylltiad â chyfansoddwyr ieuainc; a gall ddodi cyfle i ninnau draethu ein golygiadau ar bethau o bwys i'r wlad yn gyffredinol, neu i'n cyfundeb yn neillduol.

Yr oedd yn llawen genym weled cylchrediad "Cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd” wedi cyrhaedd tuag WYTH MIL o rifynau bob mis. Y mae hyn yn beth newydd yn Nghymru, ac yn arwydd dymunol ymhob modd. Ond, fel y buom yn dywedyd, er fod hyn yn dda, ac yn dda iawn, nid y goreu mohono eto. Dylai dosbarthiad cyhoeddiad misol ein cyfundeb gyrhaedd i DDENG MIL o leiaf; a phe gweithredid yn ol cynllun rhai Siroedd neillduol, byddai yn llawer mwy na hyny y flwyddyn nesaf. Dywedir wrthym am rai eglwysi lled fawrion lle mae TRYSORFA yn myned i bob teulu proffesedig, heblaw i fysg llawer o'r gwrandawyr; rhaid bod y cyfryw, medd "Mr. Golygydd," yn Fethodistiaid da, a hyderir nad ydynt yn Gristionogion gwael.

Beth pe dilynid y cyfryw esiamplau, hyd y mae yn bosibl, yn ein holl eglwysi? Byddai y lles yn ddirfawr mewn amrywiol ystyriaethau. “Y mae rhai," ebe ysgrifenydd medrus, "o wir segurdod, yn ystyried darllen yn ormod

« ПретходнаНастави »